#

Y Pwyllgor Deisebau | 25 Medi 2018
 Petitions Committee | 25 September 2018
 
 
 ,P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru 

 

 

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-831[WP(CyC|AC1] 

Teitl y ddeiseb: Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:

Mae'r ddeiseb hon yn galw ar Gynulliad Cymru i roi diwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru, drwy newid y cynllun i o leiaf adlewyrchu'r darpariaethau ar gyfer y rheini a gaiff eu heintio yn Lloegr.

Mae sawl categori o ddioddefwyr yng Nghymru sydd o bosibl ar eu colled o £20,000 neu fwy o dan y cynllun. Cafodd miloedd o bobl eu heintio o ganlyniad i dderbyn gwaed wedi'i heintio neu gynhyrchion gwaed wedi'u heintio a roddwyd iddynt gan y GIG tan fis Medi 1991 o leiaf. Mae dros ddwy fil o bobl eisoes wedi marw.

Yn dilyn datganoli pwerau, y Cynulliad sydd â'r cyfrifoldeb dros gefnogi dioddefwyr heintiedig yng Nghymru a'u teuluoedd. Caiff y cynlluniau cymorth eu gweithredu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS) a weinyddir gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) sydd, yn y pen draw, yn atebol i Gynulliad Cymru.

I'r rheini a gaiff eu heintio yn Lloegr, cynhelir y cynllun cyfatebol gan EIBSS sydd, yn y pen draw, yn atebol i'r senedd yn Llundain. Er i'r dioddefwyr oll gael eu heintio gan y GIG cyn iddo gael ei ddatganoli, mae gan EIBSS a WIBSS ddarpariaethau tra gwahanol o ran cymorth ariannol. Y ffactor sy'n pennu pa gynllun y byddwch chi'n ei gael yw lle cafodd y dioddefwr ei heintio yn hytrach na lle mae'n byw. Mae dau gynllun na all y rheini sydd o dan WIBSS gael mynediad atynt. Y rhain yw 'Mecanwaith Categori Arbennig' a hefyd y 'Cynllun cyllid ychwanegol dewisol'. Effaith net hyn oll yw bod sawl categori o ddioddefwyr heintiau yng Nghymru o bosibl ar eu colled o £20,000 o dan y cynllun, neu'n fwy os oes ganddynt blant, waeth ble y maent yn byw. Bydd dau berson sy'n byw yng Nghaerdydd er enghraifft, sydd wedi'u heintio gan y GIG, â'r un effaith, o bosibl yn cael gwahaniaeth o £20,000 mewn cymorth ariannol dim ond gan fod un o'r ddau 'yn fwy lwcus' o gael ei heintio yn Lloegr.

Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i ymyrryd i roi diwedd ar yr anghyfiawnder hwn nawr.     

 

Y cefndir

Yn ystod y 1970au a dechrau'r 1980au, daliodd miloedd o gleifion y DU hepatitis C, HIV, neu'r ddau, o waed neu gynhyrchion gwaed halogedig. Y rhan fwyaf o'r rhai yr effeithiwyd arnynt oedd dioddefwyr hemoffilia, y mae eu triniaeth yn dibynnu ar arllwysiadau mewnwythiennol mynych o ffactorau clotio gwaed a dynnwyd o blasma rhoddwyr. Ar y pryd, roedd sypiau o grynodiad ffactor clotio'n cael eu gweithgynhyrchu o roddion cyfun o waed, gan gymysgu cynhyrchion gwaed gan filoedd o roddwyr o bosibl. Creodd hyn alw mawr ar gyflenwadau gwaed a hefyd cynyddodd yn sylweddol y risg o halogi. Oherwydd prinder lleol crynodiad clotio, roedd y DU yn mewnforio cyflenwadau o roddion gwaed y talwyd amdanynt yn yr Unol Daleithiau. Mewn rhai achosion, gallai'r rhain fod wedi dod o grwpiau â risg uchel o gario hepatitis C/HIV.

Mewn dadl yn y Cyfarfod Llawn ym mis Ionawr 2017, tynnwyd sylw bod 273 o gleifion yng Nghymru wedi cael HIV neu hepatitis C drwy waed/cynhyrchion gwaed halogedig, ac mae 70 o'r bobl hyn wedi marw o ganlyniad i hynny. [WP(CyC|AC2] 

Cymorth Ariannol

Wrth ymateb i'r ddadl honno, pwysleisiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon y gwaith sydd ar droed i ddiwygio'r system o gymorth ariannol a roddir gan Lywodraeth Cymru i'r rhai y mae hepatitis C a HIV drwy driniaeth â gwaed halogedig yn effeithio arnynt. Dywedodd:

Byddai wedi bod yn well gennym fod wedi gwneud hyn ar sail gyson ledled y DU, ond dyma ble rydym. Mae’r pum cynllun haint penodol a sefydlwyd ers 1988 wedi esblygu mewn modd ad hoc, a thros amser mae’r system wedi dod yn gymhleth.

Ym mis Mawrth 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet y trefniadau cymorth newydd i unigolion yr effeithir arnynt a'u teuluoedd, sef creu 'un cynllun symlach ar gyfer Cymru i’w weinyddu gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre drwy Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru'.[WP(CyC|AC3] 

Yn ei ymateb i'r Pwyllgor Deisebau (Awst 2018), dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Er ei bod yn dal yn ystyriaeth bwysig nad yw buddiolwyr yng Nghymru yn sylweddol ar eu colled yn ariannol yn fwy nag unman arall yn y DU, mae Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru (WIBSS), er hynny, yn cynnig pecyn mwy cytbwys o gymorth cyffredinol i'w fuddiolwyr o'i gymharu â'r hyn sydd ar gael trwy rai o gynlluniau eraill y DU.

Mae fy swyddogion wrthi'n ystyried nifer o ddewisiadau ar gyfer buddion cyffredinol y cynllun yn 2018-19 sy'n deg, yn dryloyw ac sy'n cynnig y pecyn cymorth gorau yn gyffredinol o fewn yr adnoddau sydd ar gael.  Un o'r dewisiadau hyn o bosibl fyddai mabwysiadu dull gweithredu tebyg [i'r hyn sydd] yn Lloegr mewn perthynas â'r Mecanwaith Categori Arbennig ond tra bo'r gwaith hwn yn mynd rhagddo nid oes modd cynnig ateb clir ichi yn hyn o beth eto.

Ymchwiliad y DU i Waed Halogedig

Datblygiad allweddol i fod yn ymwybodol ohono yw'r ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r defnydd o waed halogedig, dan gadeiryddiaeth Syr Brian Langstaff, sydd bellach ar droed. Cynhelir gwrandawiadau rhagarweiniol tua diwedd mis Medi.

Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad yn cynnwys ystyried natur a digonolrwydd y driniaeth, y gofal a'r cymorth (gan gynnwys cymorth ariannol) a roddir i bobl a gafodd eu heintio ac yr effeithir arnynt, gan gynnwys graddau unrhyw wahaniaeth yn y trefniadau a wneir ar gyfer cymorth ariannol rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae Hemoffilia Cymru, sy'n ymgyrchu dros hemoffiligion a heintiwyd â chynhyrchion gwaed halogedig, yn gyfranogwr craidd yn yr ymchwiliad.


 [WP(CyC|AC1]http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=22675

 [WP(CyC|AC2]http://www.cynulliad.cymru/cy/bus-home/Pages/rop.aspx?meetingid=4078&assembly=5&c=Record%20of%20Proceedings#C454805

 [WP(CyC|AC3]https://llyw.cymru/about/cabinet/cabinetstatements/2017/contaminatedblood/?lang=cy